Mae cyflwynydd ar deledu gwladwriaeth Rwsia wedi cyhoeddi bygythiad amlwg i “fradychwyr” sy’n byw yng ngwledydd Prydain.

Rhybuddiodd Kirill Kleymenov am beryglon ysbïo ar Rwsia a chynghorodd y rhai a fradychodd eu gwlad: “Peidiwch â dewis Prydain fel lle i fyw.”

Daeth y sylwadau nos Fercher, yn ystod dyfalu ynghylch pwy oedd yn gyfrifol o geisio llofruddio Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn Salisbury ddydd Sul.

“Dydw i ddim eisiau marwolaeth ar unrhyw un, ond, at ddibenion addysgol yn unig, mae gennyf rybudd i unrhyw un sy’n breuddwydio am yrfa o’r fath,” meddai.

Fe gynghorodd Kirill Kleymenov “fradychwyr” yn erbyn symud i Brydain, gan ychwanegu, “Mae rhywbeth yn anghywir yno. Efallai mai dyna’r hinsawdd, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu gormod o ddigwyddiadau rhyfedd gyda chanlyniadau difrifol yno.”