Mae dau fudiad yn Syria yn honni bod degau o bobol wedi cael eu lladd yn y brifddinas gan luoedd yr Arlywydd Bashar al-Assad.

  • Yn ôl un, Gwylfa Hawliau Dynol Syria, dyma un o’r diwrnodau mwya’ gwaedlyd yn hanes y gwrthdaro rhwng gwrthryfelwyr a’r Llywodraeth.
  • Yn ôl y llall, y Llu Amddiffyn Sifil neu’r Helmedau Gwynion, roedd 98 o bobol wedi eu lladd wrth i fyddin y Llywodraeth daro un o faestrefi Damascus gyda gynnau mawr ac ymosodiadau o’r awyr.
  • Bellach, mae gwasanaeth newyddion al Jazeera yn dweud bod mwy na 100 wedi’u lladd i greu cyfanswm o fwy na 300 yn ystod y dyddiau diwetha’.

Y gred yw fod y pledu, sydd wedi parhau nifer o ddyddiau, yn ffordd o baratoi at ymosodiad mwy u niongyrchol ar faestref Dwyrain Ghouta, un o gadarnleoedd ola’r gwrthryfelwyr yng nghyffiniau Damascus.

Mae’r ardal wedi bod dan warchae ers blynyddoedd ac ychydig iawn o gymorth dyngarol sydd wedi cyrraedd yno.

Mae’r Wylfa a’r Helemdau Gwyn yn y gorffennol wedi cael eu cyhuddo o ffafrio’r gwrthryfelwyr ond mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd wedi condemnio’r lladd “disynnwyr” a galw am roi diwedd arno.