Mae mab hynaf cyn-arweinydd Cuba, y diweddar Fidel Castro, wedi lladd ei hun ar ôl misoedd o gael triniaeth am iselder, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl gwefan swyddogol Cubadebate, roedd Fidel Castro Diaz-Balart, a oedd yn 68, wedi bod yn dioddef o iselder ac wedi cael triniaeth yn yr ysbyty, cyn gadael.

Roedd Fidel Castro Diaz-Balart wedi astudio ffiseg niwclear yn y cyn-Undeb Sofietaidd ac yn gweithio fel ymgynghorydd i Gyngor Gwladol Cuba.

Roedd yn fab i wraig gyntaf Fidel Castro, Mirta Diaz-Balart.

Bu farw Fidel Castro  ym mis Tachwedd 2016 yn 90 oed.