Mae 37 o bobol wedi marw a 140 wedi eu hanafu yn dilyn tân mewn ysbyty yn Ne Corea.

Roedd sawl un o’r rhai fu farw yn oedrannus. Yn ôl yr awdurdodau roedd 26 o’r rhai fu farw yn wythdeg neu’n hŷn.

Mae’n debyg nad oedd dim sustem diffodd tân yn yr ysbyty oherwydd nad yw hynny’n orfodol dan y gyfraith.

Mae nifer yr henoed yn Ne Corea yn prysur gynyddu ac mae’r wlad yn gartref i sawl ysbyty nyrsio i’r henoed.

Bu farw 21 o bobol mewn ysbyty i’r henoed yn y wlad yn 2014.