Mae beth bynnag 30 o bobol wedi’u lladd wedi i fws blymio dros ymyl clogwyn i draeth creigiog yn Periw.

Fe wyrodd y cerbyd oddi ar ffordd gul sy’n cael ei nabod yn lleol fel “Tro’r Diafol” ger Pasamayo, 43 milltir o’r brifddinas.

Roedd 57 o deithwyr ar y bws ar y pryd, a phob un ar ei ffordd i’r brifddinas, Lima, pan gafodd y cerbyd ei daro gan drelar tractor a mynd ar ei ben dros y dibyn.

Mae gweithwyr achub wedi bod yn tynnu teithwyr o’r bws i ddiogelwch, ac mae nifer wedi’u cludo i’r ysbyty. Does yna ddim lôn yn arwain o’r briffordd yn uniongyrchol i’r traeth, ac mae hynny’n cymhlethu’r broses achub.