Mae’r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol George Weah wedi cael ei ethol yn arlywydd newydd Liberia.

Roedd enillydd teitl Chwaraewr y Byd Fifa yn 1995 wedi bod yn seneddwr yn y wlad ers rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed dros 10 mlynedd yn ôl.

Mae’r dyn 51 oed a gafodd ei eni mewn ardal dlawd o’r brifddinas, Monrovia, yn arwr i lawer yn y wlad fach yng ngorllewin Affrica.

Ar ôl chwarae i glybiau lleol cafodd yrfa lwyddiannus fel chwaraewr i brif glybiau Ewrop, gan gynnwys AS Monaco, Paris Saint-Germain, AC Milan, Chelsea a Manchester City.