Gallai Nazanin Zaghari-Ratcliffe gael ei rhyddhau o’r carchar yn Iran yn gynnar fis nesaf ar ôl treulio traean o’i dedfryd dan glo.

Mae hi wedi’i charcharu am bum mlynedd gynllwyn honedig yn erbyn llywodraeth y wlad.

 

Cafodd hi ei charcharu fis Ebrill y llynedd.

Roedd hi ar ei gwyliau pan gafodd hi ei harestio.

Fis diwethaf, cafodd Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson ei feirniadu ar ôl dweud ei bod hi’n dysgu newyddiaduraeth yn y wlad. Roedd ei theulu wedi wfftio’r awgrym, ac roedd pryderon y gallai ei dedfryd gael ei hymestyn pe bai’r awdurdodau’n credu ei bod hi’n risg i ddiogelwch y wlad ar sail propaganda honedig.