Mae gorsafoedd pleidleisio bellach ar agor ar gyfer etholiad Senedd Catalwnia.

Mae bron i 2,700 gorsaf bleidleisio ar agor ledled Catalwnia ac mae disgwyl y bydd canlyniadau’n dechrau cael eu cyhoeddi heno.

Er bod materion gan gynnwys iechyd a thai wedi cael eu trafod gan wleidyddion yn ystod yr wythnosau diwethaf o ymgyrchu, annibyniaeth yw prif fater yr etholiad mewn gwirionedd.

Bydd pleidiau cenedlaetholgar a phleidiau sydd am weld Catalwnia’n aros yn rhan Sbaen, yn mynd benben a hyd yma nid yw’n amlwg pwy fydd yn dod i’r brig.

Mae disgwyl i’r ganran fydd yn pleidleisio fod yn uwch nag erioed, ac mae’n ddigon posib mai’r pleidleiswyr sydd heb benderfynu ar bwy i gefnogi, fydd yn dewis pa garfan fydd yn fuddugol.

Cefndir

Daw’r etholiad yn sgil refferendwm mis Hydref lle wnaeth 92% o’r bobol wnaeth bleidleisio, taro pleidlais o blaid annibyniaeth.

Gwnaeth Llywodraeth Sbaen wrthod y canlyniad, ac yn dilyn datganiad o annibyniaeth gan wleidyddion Catalanaidd ar Hydref 27, cafodd senedd Catalwnia ei ddiddymu.

Yn dilyn hyn, mi alwodd Sbaen am etholiad cynnar yng Nghatalwnia gyda’r gobaith o fedru gwanhau dylanwad y cenedlaetholwyr.