Mae degau o filoedd o bobol wedi ymgynnull yn ninas Bucharest ar gyfer angladd Brenin Rwmania, Michael, oedd yn or-orwyr i’r Frenhines Fictoria.
Roedd yn frenin ar y wlad ddwywaith cyn cael ei orfodi gan y Comiwnyddion i roi’r gorau iddi yn 1947. Fe ddaeth yn frenin am y tro cyntaf yn bump oed.
Fe fu farw yn y Swistir ar Ragfyr 5 yn 96 oed.
Roedd Tywysog Charles ymhlith y rhai oedd mewn gwasanaeth yn y Palas Brenhinol cyn yr angladd swyddogol.
Cafodd ei arch ei chludo ar drên cyn i’w gorff gael ei gladdu yn nhref Curtea de Arges gyda’i wraig, Anne de Bourbon-Parme.
Mae’n gadael pump o ferched ac un ŵyr.