Mae dyn wedi marw a dwsinau wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdaro rhwng lluoedd Israel a phrotestwyr ar hyd ffin llain Gaza.

Mae protestwyr a lluoedd Israel wedi bod yn gwrthdaro yn sgil penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i gydnabod Jerwsalem fel prifddinas y wlad.

Yn ôl y weinyddiaeth iechyd Balesteinaidd , bu farw Mohammed Al-Masri, 30, ar ôl cael ei saethu ger dinas Khan Younis.

Cafodd 35 o bobol Palesteinaidd eu hanafu, meddai’r weinyddiaeth, a chafodd dau eu hanafu’n ddifrifol.

Dyma’r farwolaeth gyntaf ers i’r protestiadau ddechrau. Mae byddin Israel wedi cadarnhau bod eu milwyr wedi saethu dau unigolyn.