Fe ddylai Gweddi’r Arglwydd gael ei newid, yn ôl y Pab.
Mae eisiau newid darn enwoca’r Beibl rhag rhoi’r argraff fod Duw yn ceisio temtio pobol.
Fe ddywedodd y Pab Ffransis wrth sianel deledu yn Ffrainc fod rhan o’r weddi yn “gyfieithiad gwael”.
Satan sy’n arwain ‘i brofedigaeth’
Mae’n anhapus gyda’r cymal “nac arwain ni i brofedigaeth” gan ddweud nad yw Duw’n arwain neb i drafferthion.
“Fi yw’r un sy’n cwympo,” meddai. “Nid ef sy’n fy ngwthio fi i brofedigaeth er mwyn gweld sut yr ydw I wedi cwympo.
“Dyw tad ddim yn gwneud hynna. Mae tad yn eich helpu i godi ar unwaith. Satan sy’n ein harwain i brofedigaeth, dyna’i adran e.”
- Fe fyddai ei feirniadaeth yn gymwys ar gyfer cyfieithiad newydd y Beibl hefyd, sy’n dweud “a phaid â’n dwyn i brawf”.