Mae adroddiadau yng Ngwlad Belg fod arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont a phedwar o weinidogion eraill wedi mynd at yr heddlu o’u gwirfodd.

Fe wnaeth y pump ffoi yn dilyn y refferendwm annibyniaeth sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan awdurdodau Sbaen.

Roedd lle i gredu y byddai Sbaen yn ceisio’u hestraddodi ar ôl dod o hyd iddyn nhw.

Ond yn ôl y darlledwr cenedlaethol VRT, mae’r pump bellach wedi cyrraedd swyddfa erlynydd Gwlad Belg.

Roedd disgwyl i’r erlynydd roi datganiad heddiw am warant i arestio’r pump cyn eu dychwelyd i Sbaen.

 

 

Maen nhw’n wynebu cyhuddiadau o wrthryfela, annog gwrthryfel ac embeslo.