Mae barnwr yn Sbaen wedi cyhoeddi gwarant i arestio arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont a phedwar o’i gydweithwyr.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi ffoi i Wlad Belg yn dilyn y refferendwm annibyniaeth, sy’n cael ei wfftio gan Sbaen.

Cafodd y cais i’w harestio ei gyflwyno i awdurdodau Gwlad Belg ac i Europol.

Mae’r pump wedi’u hamau o amryw o droseddau, gan gynnwys gwrthryfela, annog gwrthryfel ac embeslo.

Fe fydd etholiadau o’r newydd yn cael eu cynnal yn Sbaen ar Ragfyr 21.

Carles Puigdemont

Yn ôl cyfreithiwr Carles Puigdemont, fe fydd e’n brwydro yn erbyn ymdrechion i’w estraddodi i Sbaen i wynebu achos llys.

Fydd e ddim yn ceisio am loches am resymau gwleidyddol, meddai.

Fe allai awdurdodau Gwlad Belg ei holi dros y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl iddo sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau cenedlaethol ar Ragfyr 21.

Ond mae e wedi wfftio honiadau ei fod e wedi teithio i Wlad Belg i ennyn cefnogaeth i’r ymgyrch tros annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Pe bai’r awdurdodau’n penderfynu ei arestio, fe fyddai angen iddo fynd gerbron barnwr o fewn 24 awr, ac fe allai’r ymdrechion i’w estraddodi gymryd hyd at 15 niwrnod.

Ond fe fyddai apêl yn ymestyn y cyfnod hwnnw i 45 o ddiwrnodau ac fe allai hynny olygu na fydd e’n dychwelyd i Gatalwnia tan ymhell ar ôl yr etholiadau.

Cyfansoddiad

Mae Carles Puigdemont a’i lywodraeth wedi cael eu cyhuddo o weithredu’n groes i Gyfansoddiad Sbaen ac fe fyddai angen mwyafrif arnyn nhw mewn pleidlais er mwyn cynnal refferendwm swyddogol, yn ôl Llywodraeth Sbaen.

Dyw’r Cyfansoddiad fel ag y mae ddim yn cydnabod refferenda answyddogol i gynyddu sofraniaeth “rhanbarthau”.

Mae naw o aelodau Llywodraeth Catalwnia eisoes wedi cael eu dedfrydu i garchar, ond doedd pump ohonyn nhw ddim yn y llys ddydd Iau.