Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae lluoedd diogelwch Syria wedi cael eu hanfon i wahanol ddinasoedd ar hyd a lled y wlad i rwystro unrhyw brotestiadau yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.
Mae presenoldeb arbennig o uchel o filwyr ym maestrefi Damascus, yn ninas Deir el-Zour yn nwyrain wlad a dinas Latakia ar yr arfordir, yn ôl mudiad o ymgyrchwyr sy’n helpu trefnu’r protestiadau.
Mae adroddiadau hefyd o saethu yma ac acw.
Daw’r gweithgareddau milwrol ddiwrnod ar ôl i filwyr Syria ladd o leiaf ddau o bobl wrth i ddegau o filoedd o brotestwyr yn erbyn y llywodraeth lenwi’r strydoedd ar ddydd Gwener olaf mis sanctaidd Ramadan y Mwslimiaid.
Mae’r gwrthdaro gwaedlyd yn parhau yn y wlad heb unrhyw arwyddion fod y naill ochr na’r llall yn barod i ildio.
Yn ôl grwpiau iawnderau dynol, mae lluoedd yr Arlywydd Assad wedi lladd dros 2,000 o bobl ers i’r gwrthryfel gychwyn ym mis Mawrth, o dan ddylanwad y don o wrthryfeloedd sydd wedi ysgubo trwy’r byd Arabaidd.