Vermont Yankee
Mae hydrogen ymbelydrol wedi gollwng o orsaf niwclear yn yr Unol Daleithiau gan halogi pridd a dŵr gerllaw, cyhoeddwyd heddiw.
Mae yna bryder fod yr ymbelydredd wedi cyrraedd Afon Connecticut, ger gorsaf niwclear Vermont Yankee.
Dywedodd Comisiynydd Iechyd Vermont, Harry Chen, fod samplau o’r dŵr ger y r orsaf niwclear yn dangos fod y tir wedi ei halogi â thritiwm, isotop ymbelydrol.
Mae yna bryder y gallai achosi canser os oes llawer ohono yn cael ei amlyncu.
Dywedodd y Llywodraethwr Peter Shumlin ei fod eisiau rhagor o ffynhonnau er mwyn tynnu dŵr o’r ddaear ger safle Vermont Yankee, a’i fod yn “bryderus iawn”.
Ond tritiwm wedi gollwng o orsafoedd niwclear yn y wlad o’r blaen. Ond mae’r amseru yn lletchwith iawn i Vermont Yankee sy’n gobeithio adnewyddu ei drwydded.
Mae perchnogion yr orsaf niwclear, Entergy, wedi mynd a’r dalaith i’r llys wrth iddyn nhw geisio cau’r orsaf niwclear i lawr.