Rupert Murdoch a Rebekah Brooks
Mae Rupert Murdoch yn wynebu galwadau o’r Unol Daleithiau am ymchwiliad i’w gwmni newyddion rhyngwladol.
Mae Seneddwyr wedi bod yn codi cwestiynau a ydi gweithgaredd “troseddol” honedig News International ym Mhrydain wedi ymestyn ar draws y dyfroedd i’w gwlad nhwythau.
Daw hyn wedi honiadau fod newyddiadurwyr wedi hacio ffonau symudol perthnasau dioddefwyr 9/11.
Galwodd y Gweriniaethwr Peter King ar yr FBI i ymchwilio i’r honiadau yn erbyn News International.
Ychwanegodd y Democrat Jay Rockefeller ei fod yn credu y byddai ymchwiliad “yn dod o hyd i ryw stwff troseddol”.
“Rydw i’n pryderu fod yr hacio ffonau symudol yn Llundain wedi ymestyn i ddioddefwyr 9/11 neu Americanwyr eraill.
“Pe bai hynny’n wir fe fyddai yna ganlyniadau difrifol iawn.”
Dywedodd Jim Riches, gollodd ei fab 29 oed yn ymosodiadau 9/11 y dylai “rhywun edrych i mewn i’r peth er mwyn gweld a ydyn nhw wedi troseddu yn erbyn hawliau pobol”.
“Rydw i wedi siarad ag aelodau teuluoedd eraill ac maen nhw yn ffieiddio at hyn.
“Maen nhw wedi croesi’r llinell. Roedd y perthnasau yn ceisio anfon negeseuon at bobol yr oedden nhw yn eu caru ym munudau olaf eu bywydau.
“Mae’n afiach ac anfoesegol,” meddai wrth wefan Politico.