Mae awdurdodau iechyd sy’n ymchwilio i nifer o achosion E.coli yn Ewrop yn drwgdybio mai ciwcymbr sydd ar fai am heintio teulu o’r Almaen.

Pythefnos yn ôl, beiodd ymchwilwyr giwcymbrau o Sbaen am nifer o’r achosion cyn penderfynu yn ddiweddarach nad oedd bai arnyn nhw.

Canolbwyntio’r ymchwiliad ar egin ffa o ogledd yr Almaen, ond dangosodd profiad nad oedden nhw wedi eu heintio.

Nawr maen nhw’n ymchwilio i achos teulu arall o ddwyrain yr Almaen sydd wedi dal yr E.coli ac yn credu mai ciwcymbr arall sydd ar fai.

Daethpwyd o hyd i’r ciwcymbr ym mhentwr compost y teulu, ond does yna ddim tystiolaeth gadarn mai dyna ffynhonnell yr E.coli.

“Nid yw’n amlwg ai’r ciwcymbr heintiodd y bobol, neu’r bobol heintiodd y ciwcymbr.” meddai Holger Paech, llefarydd ar ran adran iechyd talaith Saxony Anhalt.

Mae merch 22 oed y teulu wedi bod yn yr ysbyty ers pythefnos ac mae yna bryder y gallai ei harennau fethu o ganlyniad i’r E.coli.

“Roedd y teulu yn sâl iawn,” meddai Holger Paech. “Felly mae’n bosib eu bod nhw wedi heintio’r ciwcymbr yn hytrach nag i’r gwrthwyneb.”