Gorsaf niwclear Fukushima
Mae adroddiad yn awgrymu fod mwy o ymbelydredd wedi dianc o Orsaf Niwclear Fukushima yn Japan nag oedd awdurdodau’r wlad wedi ei amcangyfrif.

Cafodd yr orsaf niwclear ei ddifrodi yn dilyn daeargryn a tsunami yn y wlad ar 11 Mawrth.

Mae adroddiad Asiantaeth Diogelwch Niwclear y wlad yn awgrymu fod pethau’n waeth ar y safle nag y mae llywodraeth Japan yn fodlon ei gyfaddef.

Dywedodd yr asiantaeth fod tanwydd niwclear toddedig wedi disgyn i waelod adweithydd niwclear Rhif 1 yr orsaf pum awr ar ôl y ddamwain – 10 awr yn gynt nag oedd yr awdurdodau wedi ei ddweud.

Erbyn diwedd yr wythnos diwethaf roedd lefelau’r ymbelydredd o fewn yr adweithydd wedi cyrraedd 4,000 millisievert bob awr – sy’n uwch nag ar unrhyw adeg ers dechrau’r trychineb.

Mae’r asiantaeth hefyd yn tybio fod y tanwydd niwclear mewn adweithydd arall hefyd wedi toddi yn gynt nag oedd rheolwr yr orsaf, Tepco, wedi ei amcangyfrif.

Yn ôl yr Asiantaeth Diogelwch Niwclear dihangodd 770,000 terabequerel o ymbelydredd – tua 20% y cyfanswm ddihangodd o Chernobyl – o’r orsaf niwclear yn yr wythnos yn dilyn y tsunami.

Mae hynny fwy na dwbl y 370,000 terabequerel oedd yr awdurdodau wedi ei amcangyfrif yn wreiddiol.