Tajikistan o'r awyr
Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio â Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’r ail o’i blogiadau o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Ar ôl taith wyth i ddeg awr ar hyd ffyrdd llychlyd Tajikistan yn ne’r  wlad, mae diwrnod cyntaf y daith bellach wedi dod i ben. Ac mae’n deg dweud bod y profiad  wedi bod yn agoriad llygaid enfawr.

Heddiw, roedden ni’n cyfarfod pobl oedd wedi elwa o raglen Siambrau’r Bobol Cymorth Cristnogol a’u partneriaid yn Muminabad, Shahrah.  Fe gawson ni gyfle i siarad gyda merched oedd wedi datrys problemau personol a theuluol drwy ddefnyddio’r Siambr sy’n cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim.

Fe sefydlwyd y ganolfan i gynnig cymorth i drigolion lleol, i’r tlawd a’r bregus. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo ac yn hysbysu pobl  o’u hawliau ac yn eu hannog i ddatrys eu problemau ar lefel gymunedol, lle bo hynny’n bosibl. Mae’n ymdebygu  i raddau i’n Canolfannau Cynghori ‘di-dâl’ ni yng Nghymru a Phrydain. Mae prif broblemau trigolion yn amrywio o anghytundebau eiddo tir teuluol i broblemau’n ymwneud â’r uned deuluol (ysgariad neu gais i adael yr uned deuluol) â materion eraill fel mynediad i ddŵr glan.

Fe gafodd y ganolfan ei sefydlu gan wirfoddolwyr ac mae Llywodraeth leol wedi cefnogi’r cynllun drwy ddarparu swyddfa am ddim ar gyfer y siambr cyhoeddus. Fe lansiwyd y prosiect yn swyddogol fis Awst 2008, ond fe ddechreuodd y gwaith fis Tachwedd. Bellach, mae’r prosiect hanner ffordd drwodd ac mae’r swyddfa ar agor i drigolion lleol ddau ddiwrnod yr wythnos.

‘Cefnogi’

Yn ôl Shahribona Shhonasimova, aelod staff Cymorth Cristnogol oedd yn cyd-deithio â ni heddiw,  mae Llywodraeth leol yr ardal yn “cefnogi’r” siambrau cyhoeddus hyn – mae pedwar yn yr ardal i gyd. “Rydan ni’n cael llawer o gyfarfodydd ac mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod yn gyson gyda swyddogion Llywodraeth leol. Mae ganddyn nhw agwedd cadarnhaol at y peth oherwydd mae’n cymryd pwysau oddi arnyn nhw,” meddai cyn dweud nad oedd pobl Tajikistan yn gwybod at bwy i droi gyda’u problemau cyn hyn.

Mae ceisio datrys problem yng nghefn gwlad Tajikistan yn gallu profi’n dipyn o her ar y gorau gyda phobl yn gorfod teithio cyn belled ag 20 cilomedr i ganolfan berthnasol yn yr ardal dan amgylchiadau arferol.  Hyd yn oed wedyn, mae trigolion yn debyg o wynebu costau drud sy’n amrywio o ardal i ardal ac mae pobl yn agored i lwgrwobrwyaeth.

Gyda dros 70% o bobl Tajikistan yn byw mewn tlodi (ffigyrau’r Cenhedloedd Unedig) mae gwasanaeth fel hwn felly yn cynnig gobaith ac addewid i’r tlawd. Mae hefyd cynnig arweiniad ac eglurder ar faterion sy’n poeni teuluoedd  ac y gallu eu torri.  Mae’n cynnig rhagor o ddewisiadau i bobl mewn byd all fod yn eithaf cyfyngedig o ran opsiynau i’r tlawd.

Ffigyrau…

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 112 o bobl wedi ymweld â’r ganolfan ac mae’n dod yn fwy poblogaidd  wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o’i fodolaeth. Ers y dechrau’r cynllun –  mae 147 o bobl wedi gwneud cais yn y ganolfan. Mae 57 ohonynt yn ddynion a’r gweddill yn ferched.

Dim ond 17 achos oedd heb ei ddatrys gan y Ganolfan y llynedd a hynny oherwydd bod y materion hynny y tu allan i’w dwylo.

Yn ôl Shahribona Shhonasimova, mae rhan fwyaf o’r rheini sydd wedi bod ar eu hennill o ganlyniad i’r siambr yn ferched.

Straeon

Heddiw, roedd merch o’r enw Sairambi yn son am lwyddiant y Siambr ar ôl iddynt sicrhau bod arian yr oedd wedi’i roi i ddyn fel benthyciad yn cael ei dalu nôl iddi. Roedd wedi gwario ac wedi bod at awdurdodau gwahanol am bum mlynedd ond wedi methu datrys y sefyllfa cyn hyn. Roedd y siambr wedi’i chynorthwyo i drafod â’r dyn a darganfod ffordd arall o dalu’r ffi yn ôl – drwy werthu buwch.

Roedd merch arall, Adolat yn siarad am ysgaru yn 2010 ac am yr anawsterau yr oedd wedi’i brofi  gyda’r broses o geisio drefnu eiddo ar ôl i swyddog geisio’i llwgrwobrwyo  – rhywbeth sy’n eithaf cyffredin yn anffodus. Un waith yn rhagor, roedd y Siambr wedi gallu pennu cytundeb ffafriol iddi ar ôl siarad gydag aelod o’i theulu. Roedd rhagor o drafodaeth am ysgariad a’r anawsterau mawr y mae merched  a’u teuluoedd yn wynebu  – gyda’r grym i ysgaru yn nwylo dynion. Mae merched yn annhebygol o briodi eto, yn gorfod symud yn ôl adref i fyw gyda’u rhieni a delio gyda’r stigma cymdeithasol.

Roedd dwy arall, Zarafsian a Robia wedi dod i’r ganolfan gyda phroblemau mynediad i ddŵr glan. Ers mis Mai eleni – mae’r siambr wedi llwyddo gosod 48 pwynt dŵr yn lleol. Ar gyfartaledd, roedd rhaid i bobl gerdded 5 cilomedr y diwrnod i nol dŵr cyn hyn.