Mae bws wedi llithro 200 troedfedd oddi ar ffordd ar ochr mynydd I afon yn gorlifo yn Kashmir, gan ladd o leia’ 25 o bobl, yn ôl yr heddlu.
Mae’n bosib bod y gyrrwr wedi colli rheolaeth o’r bws wrth geisio osgoi praidd o ddefaid ar y ffordd yn y rhanbarth o Kashmir sy’n cael ei reoli gan Bacistan, meddai’r heddwas Farooq Ahmad.
Doedd fawr o obaith o ddod o hyd I neb yn fyw oherwydd llif cry’r Afon Neelam, yn ôl swyddog y llywodraeth Ali Asghar.
Dywedodd fod yr heddlu’n amcangyfrif bod 25 o bobl ar y bws, ond mi allai bod mwy na hynny.
Digwyddodd y ddamwain 60 milltir o brifddinas y rhanbarth yn Muzaffarabad.
Mae ffyrdd gwael, cerbydau heb eu cynnal a’u cadw a gyrru gwirion yn achosi damweiniau bysus ofnadwy ym Mhacistan yn aml.