Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan yr Eglwys Gatholig yn yr Unol Daleithiau wedi dod i’r casgliad nad yw gwrywgydiaeth, ymatal rhag rhyw, na’r ffaith fod offeiriaid i gyd yn ddynion wedi cyfrannu at gam-drin plant.

Amcan yr ymchwiliad gostiodd $1.8 miliwn, gan Goleg Cyfiawnder Troseddol John Jay yn Efrog Newydd, oedd dadansoddi patrymau cam-drin rhywiol yn yr Eglwys Gatholig dros y degawdau diwethaf.

Un o gasgliadau’r adroddiad yw bod 44% o’r achosion o gam-drin rhywiol sydd wedi eu cofnodi yn ymwneud ag offeiriaid a ordeiniwyd yn y 1940au a’r 50au – ar adeg pan nad oedden nhw’n cael eu hyfforddi i fyw bywydau heb ryw.

Doedd yr offeiriaid hyn, meddai’r adroddiad, ddim wedi eu paratoi i ymdopi â newidiadau cymdeithasol y 1960au a’r chwyldro rhywiol.

Gwella diogelwch plant

Mae’r Eglwys Gatholig wedi derbyn cwynion gan 15,700 o bobol am 6,000 o glerigwyr ers 1950, yn ôl y gwaith ymchwil.

Yn ôl yr ymchwilwyr, roedd y camdrin ar ei waethaf yn yr 1970au, a dechreuodd ostwng yn yr 80au.

Yr adroddiad hwn yw’r diwethaf o dri a gomisiynwyd gan Gynhadledd Esgobion Catholig yr Unol Daleithiau yn 2002.

Mae’r ddadl wedi hollti barn yn yr Eglwys Gatholig, rhwng y rheini sy’n credu fod gorfod ymatal rhag cael rhyw yn rhannol gyfrifol am y troseddu, a rhai sy’n rhoi’r bai ar offeiriaid hoyw.

Ond mae’r ymchwil wedi dod i’r casgliad fod troseddwyr yn dewis bechgyn yn bennaf am fod ganddyn nhw mwy o gyfle i ddod i gysylltiad â nhw.

Dim nodweddion amlwg

Roedd yr esgobaeth yn gobeithio y byddai canlyniadau’r arolwg yn eu helpu i adnabod troseddwyr posib yn gynt.

Ond dywedodd ymchwilwyr nad oedd unrhyw “nodweddion seicolegol” oedd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng offeiriaid oedd wedi a rhai oedd heb gamdrin plât.

“Dyw’r arolwg heb ddod o hyd i un rheswm penodol pam fod rhai offeiriaid yn cam-drin plant,” meddai’r ymchwilwyr.

Cythruddo dioddefwyr

Er bod y dioddefwyr a astudiwyd i gyd yn blant, dywedodd yr ymchwilwyr mai canran bach iawn o offeiriaid – llai na 5% – oedd yn deilwng o gael eu galw yn ‘pedoffiliaid’.

Mae ymchwilwyr John Jay wedi diffinio’r gair ‘phedoffeil’ fel ‘oedolyn sydd ag atyniad rhywiol dwys at blant cyn oed aeddfedrwydd’.

Mae ymgyrchwyr dros hawliau dioddefwyr yn anhapus fod yr ymchwilwyr wedi defnyddio term mor gyfyngedig.

Maen nhw hefyd yn wfftio canlyniadau’r ymchwil, gan fod y dystiolaeth wedi ei ddarparu gan yr esgobaeth ei hun.

Mae llawer hefyd wedi beirniadu gwerth yr adroddiad gan ei fod yn canolbwyntio ar offeiriaid oedd yn troseddu yn unig, yn hytrach nag esgobion oedd yn eu hamddiffyn nhw.

Does dim un esgob wedi ei ddisgyblu gan y pab am gadw troseddwyr yn y weinidogaeth heb rybuddio’r rhieni na’r heddlu.