Y Frenhines a Mary McAleese yn yr Ardd Goffa
Bydd y Frenhines yn ymweld â Croke Park – safle cyflafan ddrwg-enwog gan filwyr Prydeinig – ar ail ddiwrnod ei hymweliad â Gweriniaeth Iwerddon heddiw.
Mae’r ymweliad yn cynrychioli carreg filltir arall wrth i’r Frenhines gydnabod fod Prydain wedi gwneud camgymeriadau mawr wrth lywodraethu dros Iwerddon.
Pan gyrhaeddodd y Frenhines y brifddinas y wlad ddoe gosododd torch yn yr Ardd Goffa sy’n nodi aberth y rheini fu farw er mwyn sicrhau rhyddid i’r wlad ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Yn ystod gêm o Bêl-droed Wyddelig ar Croke Park yn 1920, saethodd milwyr Prydeinig 12 o wylwyr ac un chwaraewr yn farw. Fe fu dioddefwr arall farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.
Roedd yr ymosodiad yn ddial ar ôl i genedlaetholwyr saethu 14 o filwyr y Lluoedd Arfog Prydeinig yn farw yn gynharach yr un diwrnod.
Mae’r stadiwm yn eiddo i’r Gymdeithas Athletau Gwyddelig ac maen nhw wedi addo rhoi croeso cynnes i’r Frenhines.
Bydd y Prif Weinidog, David Cameron, hefyd yn ymuno â’r Frenhines heddiw am ran o’i thaith.
Fe fydd yn cynnal trafodaethau â’r Taoiseach Enda Kenny cyn ymuno gyda’r Frenhines a Dug Caeredin ar gyfer gwledd yng Nghastell Dulyn.
Fe fydd y Frenhines yn traddodi araith yn ystod y cinio a bydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Mary McAleese, hefyd yn siarad.
Yn ddiweddarach fe fydd y Frenhines yn ymweld â ffatri Guinness yn Nulyn.