Osama bin Laden
Mae aelodau senedd Pacistan wedi beirniadu America am y cyrch a laddodd Osama bin Laden ar diriogaeth eu gwlad bron i bythefnos yn ôl.

Maen nhw hefyd wedi galw am gomisiwn annibynnol i ymchwilio i’r digwyddiad yn hytrach nag un sy’n cael ei arwain gan luoedd arfog y wlad fel a gafodd ei awgrymu’n wreiddiol gan y llywodraeth.

Mewn cynnig a gafodd ei basio gan y senedd y bore yma, cafodd cyrch America ei ddisgrifio fel ymosodiad ar sofraniaeth Pacistan.

Roedd y cyfarfod o’r senedd yn dilyn sesiwn gaeedig o holi prif swyddogion milwrol y wlad neithiwr, a barhaodd am oriau. Mae hyn yn anghyffredin iawn yn y wlad lle mae’r fyddin fel arfer yn gweithredu y tu hwnt i reolaeth y gwleidyddion.

Amddiffyn record

Yn y cyfarfod, roedd pennaeth y gwasanaethau cudd, y Cadfridog Ahmed Shuja Pasha wedi amddiffyn record y fyddin wrth ymladd yn erbyn mudiadau eithafol Islamaidd.

Roedd yn cydnabod esgeulustod wrth geisio cael hyd i bin Laden, ond dywedodd fod Pacistan wedi cydweithio â’r Unol Daleithiau wrth helpu lladd neu ddal llawer o’i gyd-derfysgwyr, gan wanhau strwythur al Qaida.

Dywedodd mai’r rheswm fod gwasanaeth cudd America, y CIA, wedi llwyddo i olrhain bin Laden oedd fod ganddyn nhw lawer mwy o ffynonellau ym Mhacistan nag oedd gan wasanaethau cudd Pacistan gan fod ganddyn nhw gymaint mwy o arian.

Tra oedd Pacistan yn talu 10,000 rupee ($118) roedd America’n talu $10,000.

Yn ôl y gweinidog gwybodaeth Firdous Ashiq Awan, fe wnaeth yr Aelodau Seneddol fynegi hyder llwyr yn lluoedd arfog y wlad.