Singapore
Mae pensiynwr wedi achub babi newydd anedig gafodd ei gladdu’n fyw yn Singapore.

Dywedodd Tay Kim Sia ei fod yn smygu sigaret ar do ei fflat pan sylwodd ar bar o goesau bach yn codi o’r pridd mewn bocs blodau.

Dywedodd wrth bapur newydd The New Paper ei fod wedi tyllu o amgylch y coesau a dod o hyd i fachgen bach ynddo oedd â bag plastig wedi’i glymu o amgylch ei ben.

Yn ôl y papur newydd cafodd gymorth pensiynwyr eraill i lanhau’r plentyn a galw’r heddlu. Roedd y babi newydd ei eni a’i linyn bogail yn gysylltiedig.

Aethpwyd a’r babi i’r ysbyty ac fe fydd yn byw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Yvonne Edwin, nad oedd unrhyw un wedi halwio’r babi a bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.