Hofrennydd uwchben Mazar-e-Sharif
Mae’r Unol Daleithiau a Llywodraeth Prydain i gyd wedi condemnio ymosodiad a laddodd 20 o bobol yn un o ganolfannau’r Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan.

Fe drodd protest yn dreisgar wrth i filoedd o bobol orymdeithio ac yna ymosod ar y ganolfan ym Mazar-e-Sharif.

Mae’n ymddangos bod o leia’ dri o staff y Cenhedloedd Unedig wedi marw a phedwar o filwyr gwarchod o Nepal, yn ogystal â gweithwyr lleol a rhai protestwyr.

Yn ôl rhai adroddiadau roedd rhai o’r gorllewinwyr wedi cael eu dienyddio wrth i’r bobol leol brotestio yn erbyn gweithred gweinidog efengylaidd yn America yn llosgi copi o lyfr sanctaidd y Moslemiaid, y Koran.

Gweithred gïaidd

“Roedd hon yn weithred giaidd ac rwy’n ei chondemnio’n llwyr,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague. “Mae gwaith Cenhadaeth Gymorth y Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan o’r pwysigrwydd mwya’ ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu gweithio mewn awyrgylch saff a diogel.”

Mae’r awdurdodau yn Afghanistan yn dweud eu bod wedi arestio tuag 20 o bobol a bod y rheiny’n cynnwys y dyn a drefnodd yr ymosodiad.

Roedd Terry Jones o Florida wedi llosgi’r Koran bron bythefnos yn ôl ond mae wedi gwadu bod ganddo ef unrhyw gyfrifoldeb am y lladd.