Logo Nato
Mae llysgenhadon Nato wedi methu unwaith eto i benderfynu pwy a ddylai fod yn arwain y cyrchoedd yn Libya.

Yn y wlad ei hun, er bod ymosodiadau’r lluoedd rhyngwladol wedi parhau, mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera’n dweud bod milwyr y Cyrnol Gaddafi’n parhau i danio gynnau mawr at wrthryfelwyr yn nhref Misrata.

Fe fydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd heddiw ac mae’r sefyllfa’n debyg o gael ei thrafod rhwng llywodraethau Prydain a Ffrainc.

Mae’n ymddangos mai dyma natur y ddadl – mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn hapus i gynghrair Nato gymryd yr awenau oddi ar yr Unol Daleithiau ond mae Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, eisiau i’r grym fod yn nwylo’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y cyrchoedd.

Fe fu trafodaethau rhwng y llysgenhadon ddoe a neithiwr ond fe fethon nhw â chytuno am y trydydd tro.