Awyren Tornado yn gadael am Libya (gwifren PA)
Ar ddiwedd diwrnod cyntaf y cyrch rhyngwladol yn erbyn Muammar Gaddafi, mae llywodraethau Prydain ac America’n hawlio bod yr ymosodiadau ar dargedau yn Libya wedi llwyddo.

Dywed pennaeth lluoedd arfog America, y Llyngesydd Mike Millen, nad oedd Gaddafi yn gallu defnyddio hofrenyddion nac awyrennau mwyach, a oedd yn golygu “fod gwaharddiad hedfan eisoes wedi cael ei roi ar waith”.

Yn ystod y nos neithiwr, cafodd 112 o daflegrau Tomahawk eu tanio at systemau amddiffyn Libya o longau rhyfel America ac un o longau tanfor Prydain yn y Môr Canoldir.

Fe fu ymosodiadau’n ogystal o awyrennau Tornado’r RAF a bomwyr llechwraidd B-2 America y bore yma.

Mewn cynhadledd newyddion yn Llundain, dywedodd yr Is-Farsial Awyrlu Phil Osborn fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn “gwbl fodlon” gyda llwyddiant y cyrchoedd, a oedd wedi taro “targedau o werth uchel” yn y brifddinas Tripoli a rhannau eraill o Libya.

Yn ystod y cyrchoedd, fe fu awyrennau Tornado yn hedfan o faes awyr RAF Marham ar deithiau wyth awr, 3,000 o filltiroedd i Libya ac yn ôl – teithiau hiraf yr RAF ers rhyfel y Falkland.

Yn gynharach, roedd awyrennau jet Mirage a Rafale awyrlu Ffrainc wedi tanio ar danciau a cherbydau arfog sy’n cael eu defnyddio gan luoedd Gaddafi gerllaw cadarnle’r gwrthryfelwyr, Benghazi.

‘Angenrheidiol, cyfreithlon a chyfiawn’

Roedd yr ymosodiadau’n dilyn uwch-gynhadledd frys yn Paris ddoe i gytuno ar weithredu milwrol i gweithredu Cynnig 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sy’n caniatáu “unrhyw fesurau angenrheidiol” ac eithrio goresgyniad tramor i amddiffyn pobl gyffredin yn Libya.

Dywed y Prif Weinidog David Cameron fod y rhan y mae lluoedd arfog Prydain yn ei chwarae mewn cyrch rhyngwladol yn “angenrheidiol, cyfreithlon a chyfiawn”.

“Dw i’n credu y dylen ni i gyd fod yn hyderus fod yr hyn ydyn ni’n ei wneud yn achos cyfiawn ac er budd ein gwlad,” meddai.

‘Ymladd y croesgadwyr’

Mae Gaddafi wedi ymateb i’r ymosodiadau trwy addunedu i ymladd rhyfel hir “gydag amynedd diderfyn a ffydd cadarn”. Dywedodd fod storfeydd arfau’n cael eu hagor er mwyn arfogi pobl Libya i amddiffyn eu hunain yn erbyn “y gelyn croesgadaidd”.

Mae rhywfaint o arwyddion o anesmwythyd hefyd ymhlith arweinwyr Arabaidd ynghylch natur a graddfa ymosodiadau gwledydd gorllewinol. Mae hyn er gwaethaf adroddiadau y bydd Qatar a’r United Arab Emirates yn cymryd rhan yn y cyrch rhyngwladol yn fuan.

Mae sylwadau gan Amr Mussa, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gynghrair Arabaidd, yn awgrymu bod yr ymosodiadau wedi mynd y tu hwnt i’r mesurau i amddiffyn pobl gyffredin a gafodd eu cefnogi gan y Gynghrair yn y Cenhedloedd Unedig yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn Libya yn wahanol i orfodi gwaharaddiad hedfan,” meddai. “Yr hyn y mae arnon ni ei eisiau yw amddiffyn pobl gyffredin nid bomio pobl gyffredin eraill.”