Ali Abdullah Saleh
Mae Arlywydd Yemen Ali Abdullah Saleh wedi cyhoeddi bod y wlad mewn stad o argyfwng ar ôl i 31 o brotestwyr gael eu lladd gan luoedd y Llywodraeth.

Fe gafodd cannoedd eraill eu hanafu wrth i’r milwyr saethu at y dyrfa yn y brotest fwya’ ers i wrthdystiadau ddechrau yno’r mis diwetha’.

Roedd lluoedd y llywodraeth wedi gosod eu hunain ar doeau o amgylch sgwâr yn y brifddinas Sanaa cyn dechrau saethu’r protestwyr.

Mae meddygon sydd wedi bod yn trin y cleifion wedi cadarnhau bod 31 wedi marw gan gynnwys tri phlentyn.

Mae ymateb y llywodraeth yn nodi cynnydd yng ngormes eu lluoedd diogelwch ac fe fydd yn creu problem i wledydd y gorllewin sydd wedi ymyrryd yn Libya oherwydd ymosodiadau ar brotestwyr.

Gwrthod ildio

Mae protestwyr wedi ymgynnull mewn gwersylloedd ar draws y wlad i brotestio yn erbyn Llywodraeth Ali Abdullah Saleh.

Mae lluoedd y llywodraeth wedi defnyddio amrywiaeth o arfau i ymosod arnyn nhw er mwyn ceisio dod â’r protestio i ben. Ond mae’r gwrthdystwyr yn dweud nad yddyn hhw am ildio nes y bydd Ali Abdullah Saleh yn rhoi’r gorau i’w swydd.

Mae llefarydd ar ran gwrthwynebwyr y llywodraeth, Mohammad al-Sabri, wedi galw’r digwyddiad yn “lladdfa”.

“Dyma ran o’u cynllun i ladd yr holl brotestwyr – yr arlywydd a’i berthnasau sy’n gyfrifol am y lladdfa yn Yemen heddiw,” meddai.

Mae Llywodraeth Yemen wedi bod yn cydweithio gyda’r Unol Daleithiau yn eu brwydr yn erbyn y mudiad terfysgol Al Qaida.