Naoto Kan
Mae Prif Weinidog Japan, Naoto Kan, wedi galw ar bobol y wlad i uno a goresgyn y trychineb mwyaf yn hanes y wlad ers yr Ail Ryfel Byd.

Mewn araith a ddarlledwyd ar y teledu heddiw , dywedodd y Prif Weinidog y byddai dyfodol y wlad yn dibynnu ar ymroddiad pob un o’i ddinasyddion.

Dywedodd fod gan bawb ran i’w chwarae wrth ail-adeiladu’r wlad, yn dilyn y daeargryn a’r tsunami darodd ddydd Gwener.

Mae yna bellach bryderon fod tua 10,000 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r trychineb. Mae miliynau o oroeswyr ar arfordir gogledd-ddwyrain y wlad heb ddŵr yfed, trydan, na bwyd.

“Y daeargryn a’r tsunami yma, a hefyd y broblem â’r gorsafoedd pŵer niwclear, yw’r trychineb anodd yr ydym ni wedi ei wynebu yn y 50 mlynedd ers yr Ail Ryfel Byd,” meddai Naoto Kan.

“Bydd goresgyn y cyfnod caled yma yn dibynnu ar bob un o ddinasyddion Japan.”