Mae dyn o Gymru wedi ei garcharu yng Nghambodia am ymosod yn rhywiol ar blant.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan fod Nick Griffin, 53, oedd yn rhedeg cartref plant amddifad yn Siem Reap, wedi ei garcharu am ddwy flynedd am ymosod yn rhywiol ar blant oedd dan ei ofal.

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw wedi gweithio â Heddlu Cenedlaethol Cambodia er mwyn sicrhau cyfiawnder.

Gadawodd Nick Griffin Prydain yn 2006 cyn sefydlu Cronfa Plant Amddifad Cambodia.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn wreiddiol o Langollen.

Roedd ymchwilwyr wedi gofyn i’r heddlu yng Nghymru ymchwilio i’w gefndir. Doedd o heb ei gael yn euog o unrhyw drosedd yn y gorffennol.

Cafodd dyn arall, Matthew Harland, 38, ei garcharu am saith mlynedd yng Nghambodia  am “brynu rhyw” gan ferched ifanc.

“Mae dau ddedfryd o fewn deuddydd yn dangos na fydd unrhyw un yn goddef y drosedd yma, lle bynnag yn y byd ydych chi’n mynd i osgoi cael eich dal,” meddai Peter Davies o’r heddlu.

“Dylai unrhyw droseddwr sy’n meddwl y gallai ymweld â llefydd fel Cambodia er mwyn targedu plant ifanc, bregus, ailfeddwl.”