Mae disgwyl i Lywodraeth Catalwnia gymeradwyo refferendwm annibyniaeth heddiw, a dechrau ar y trefniadau i’w gynnal ar Hydref 1.

Yn ôl Llywodraeth Sbaen, byddai’r fath bleidlais yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Ond mae disgwyl i Gatalwnia bleidleisio ar ddeddfwriaeth i fwrw ymlaen gyda’r refferendwm a’r fframwaith cyfreithiol er mwyn ceisio ennill annibyniaeth.

Mae gan y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth fwyafrif yn y senedd ac felly mae disgwyl i unrhyw ymgais i geisio annibyniaeth lwyddo.

Polau 

Er bod polau diweddar yn dangos bod llai o drigolion Catalwnia o blaid annibyniaeth erbyn hyn, mae’r mwyafrif o blaid cael yr hawl i ddewis.

Ni fydd angen i ganran benodol o bobol bleidleisio er mwyn i ganlyniad y refferendwm fod yn ddilys, yn ôl arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont.

Ac fe eglurodd y byddai ei lywodraeth yn datgan bod Catalwnia’n wlad annibynnol o fewn 48 awr ar ôl y refferendwm pe bai’r mwyafrif yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Mae e yn Barcelona heddiw ar gyfer cyfarfod o’r senedd.

Sbaen 

Dywedodd prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun y byddai Catalwnia’n “teimlo holl rym y gyfraith” er mwyn ei hatal rhag cynnal y refferendwm.

“Ni all unrhyw un gael gwared ar ddemocratiaeth Sbaen,” meddai.

Roedd rhai gwleidyddion yng Nghatalwnia wedi cael eu diarddel dros dro pan gafodd refferendwm answyddogol ei gynnal yn 2014 – gyda’r mwyafrif bryd hynny yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Ac mae Swyddfa Archwilio Sbaen yn mynnu bod rhaid i gyn-arweinydd Catalwnia, Artur Mas dalu pum miliwn Ewro erbyn Medi 25 am gynnal y refferendwm hwnnw.

Mae Carles Puigdemont wedi cyhuddo’r Swyddfa Archwilio o fygwth Artur Mas cyn y bleidlais ar Hydref 1.