Mae un o uwch ymgynghorwyr Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud bod yn rhaid i’r weinyddiaeth “wneud mwy o ymdrech” wrth gondemnio grwpiau casineb.

Yn siarad â’r Financial Times dywedodd Ymgynghorydd Economaidd yr Arlywydd, Gary Cohn, ei fod yn teimlo bod rhaid iddo “leisio gofid” dros ymateb y tŷ Gwyn i rali casineb yn Charlottesville.

“Mae’n rhaid i weinyddiaeth Trump ymdrechu’n fwy o ran condemnio’r grwpiau yma,” meddai Gary Cohn, wrth y papur. “Ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r holltau dwfn yn ein cymunedau.”

Cafodd yr Arlywydd, Donald Trump, ei feirniadu wedi iddo feio’r “ddwy ochr” am drais yn ystod y rali cenedlaetholdeb gwyn yn nhalaith Virginia.

Yn dilyn ymateb chwyrn i’w sylwadau, gwnaeth Donald Trump droi ar y cyfryngau gan fynnu ei fod wedi galw am “undod a chariad.”