Mae llys yn Bangladesh wedi traddodi i farwolaeth ddeg o aelodau grwp Islamaidd sydd wedi’i wahardd, am gynllwyn i ladd y prif weinidog, Sheikh Hasina, yn y flwyddyn 2000.
Mae’r barnwr Mamtaz Begum wedi gorchymyn y dylen nhw gael eu saethu – fe ddaeth y dyfarniad ddydd Sul yn y brifddinas, Dhaka. Mae’n ddyfarniad anghyffredin yn Bangladesh, lle mae’r rhan fwyaf o bobol sy’n derbyn y gosb eithaf yn cael eu crogi.
Yn ol erlynwyr, fe gafodd dwy fom eu canfod ddiwrnod cyn yr oedd disgwyl i Sheikh Hasina annerch rali ar gampws coleg yn nhref Kotalipara.
Mae’r deg o bobol sydd wedi’u traddodi i farwolaeth yn aelodau o grwp Harkatul Jihad-al-Islami. Mae cyfreithwyr ar eu rhan wedi dweud y byddan nhw’n apelio’n erbyn y dyfarniad.