Fe fu tân ar lwyfan gŵyl yn ninas Barcelona nos Sadwrn.

Cafodd 22,143 o bobol eu symud i ffwrdd o lwyfan gŵyl Tomorrowland Unite ym mharc Can Zam yn Santa Coloma de Gramenet.

Ond mae lle i gredu na chafodd unrhyw un ei anafu.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân, ond mae adroddiadau’n awgrymu mai tân gwyllt oedd yn gyfrifol.

Roedd disgwyl i’r DJs Steve Aoki, Ingrosso ac Afrojack berfformio.