Mae deg o bobol wedi’u lladd wedi i ymgais i smyglo mewnfudwyr i mewn i Tecsas fynd o chwith.
Daethpwyd o hyd i wyth o bobol yn gynharach ddydd Sul yng nghefn trelar tractor ym maes parcio’r archfarnad Walmart yn San Antonio.
Y gred ydi fod cynifer a chant o bobol yng nghefn y tryc.
Fe ddaeth yr awdurdodau o hyd i 38 ohonyn nhw, ond mae’r lleill wedi dianc.
Mae rhai’n mynnu mai dinasyddion Mecsico ydyn nhw, ac mae pedwar ohonyn nhw rhwng 10 a 17 oed. Mae beth bynnag un mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae gyrrwr y cerbyd wedi’i arestio ar amheuaeth o smyglo a phrynu a gwerthu pobol.