Chelsea Manning
Bydd milwr traws rhywiol cafodd ei chyhuddo o ddwyn a datgelu dogfennau cyfrinachol Llywodraeth yr Unol Daleithiau, yn cael ei rhyddhau o’r carchar heddiw.

Roedd Chelsea Manning yn wynebu’r posibiliad o dreulio 35 mlynedd dan glo, ond yn ystod ei ddyddiau olaf yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, llwyddodd Barack Obama i leihau’r ddedfryd i saith mlynedd.

Treuliodd ei harddegau yn Hwlffordd, tref enedigol ei mam, ac wedi i Barack Obama gwtogi ei chyfnod yng ngharchar ym mis Ionawr eleni, dywedodd ei theulu y byddai “croeso iddi yng Nghymru”.

Roedd hi’n wreiddiol yn cael eu hadnabod fel Bradley Manning, a pan oedd hi’n gweithio yn y fyddin gwnaeth hi gopïo 250,000 o negeseuon cyfrinachol o lysgenhatai Americanaidd.

Cafodd Chelsea Manning ei harestio yn 2010 ac yn 2013 cafodd ei yn barnu’n euog o 20 trosedd yn cynnwys ysbïo, lladrata a thwyll cyfrifiadurol.

Mae hi’n cydnabod gwnaeth hi ddanfon deunydd cyfrinachol i wefan Wikileaks – gwefan sydd yn datgelu dogfennau cyfrinachol i’r cyfryngau – ond yn mynnu mai eu bwriad oedd datgelu effaith rhyfel ar ddinasyddion.