Y merched gafodd eu cipio yn 2014 (Llun: PA)
Mae rhieni 82 o ferched ysgol yn Nigeria gafodd eu rhyddhau dros y penwythnos o fod yn wystlon i grŵp Islamaidd, yn dal i aros i gael gweld eu hanwyliaid.

Fe herwgipiodd y grwp Islamaidd eithafol, Boko Haram, 276 o ferched ysgol o dref Chibok ym mis Ebrill 2014 fel rhan o’i wrthryfel yng ngogledd Nigeria.

Wrth gyfarfod â’r 82 merch ddydd Sul, fe addawodd Arlywydd Nigeria, Muhammadu Buhari, oruchwylio y gofal y bydd y merched yn ei dderbyn, ynghyd â sicrhau eu bod yn derbyn addysg.

Ond mae teuluoedd yn bryderus o hyd fod y 82 merch heb symud o’r brifddinas, Abuja -sydd 559 milltir o dref Chibok – ac nid yw’n glir pryd y can’ nhw fynd adref.

Cafodd grŵp o 21 eu rhyddhau ym mis Hydref ac maen nhw wedi bod dan ofal Llywodraeth Nigeria ers hynny, er bod grwpiau hawliau sifil wedi mynnu eu bod yn cael eu haduno â’u teuluoedd.