Gibraltar
Mae llywodraeth Sbaen wedi cael eu cyhuddo o fanteisio ar Brexit i geisio cryfhau eu grym tros diriogaeth Gibraltar.

Mae llywodraeth Gibraltar yn anhapus ynghylch cynnig yn yr Undeb Ewropeaidd i roi grym i Sbaen tros ddyfodol y diriogaeth.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May dan bwysau i sicrhau newidiadau yn y rheolau Ewropeaidd, a fyddai’n ddibynnol ar sêl bendith Sbaen i Gibraltar gael ei chynnwys mewn trafodaethau masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a llywodraeth Prydain.

‘Culni’

Mae Gibraltar wedi cyhuddo Sbaen o neilltuo “anghyfiawn ac annerbyniol” ac o “fuddiannau gwleidyddol cul”.

Dywedodd Prif Weinidog Gibraltar, Fabian Picardo: “Dylai’r holl fyd a’r holl Undeb Ewropeaidd wybod: dydy hyn ddim yn newid unrhyw beth yn nhermau ein sofraniaeth Brydeinig ecsgliwsif barhaus.”

Llywodraeth Prydain fu’n rheoli Gibraltar ers 1713, ac mae ganddi statws Tiriogaeth Dramor Brydeinig.