Mae mudiad y Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ddau ffrwydriad sydd wedi ysgwyd Kabul, prifddinas Afghanistan, fore heddiw.
Fe dargedodd un hunanfomiwr gatiau swyddfa’r heddlu yng ngorllewin Kabul, tra bod y llall yn nwyrain y ddinas wedi cerdded i swyddfa genedlaethol y gwasanaeth cudd-wybodaeth.
Fe gafodd un person ei ladd yn y bomio, a 37 arall eu hanafu.