Nicolas Sarkozy, cyn-Arlywydd Ffrainc
Mae cyn-Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yn wynebu cael ei erlyn yn y llysoedd yn sgil ymchwiliad i honiadau o dwyll ariannol yn ystod ei ymgyrch arlywyddol yn 2012, meddai erlynwyr ym Mharis.

Fe fydd Nicolas Sarkozy ac 13 o bobl eraill yn ymddangos gerbron llys yn sgil honiadau bod ei ymgyrch arlywyddol, a fethodd yn 2012, wedi gwario ymhell dros y trothwy cyfreithiol, meddai swyddfa’r erlynydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Nicolas Sarkozy y byddai’n apelio yn erbyn y penderfyniad.

Daw’r newyddion wrth i gyn-ddirprwy Nicolas Sarkozy, Francois Fillon, wynebu ymchwiliad i swyddi gwleidyddol a gafodd ei wraig, ei fab a’i ferch.

Mae Francois Fillon, sy’n ymgeisydd arlywyddol ar ran y ceidwadwyr, yn mynnu nad oedd wedi gwneud dim anghyfreithlon wrth roi swydd cynorthwyydd i’w wraig, Penelope Fillon, sy’n wreiddiol o’r Fenni.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg Ffrengig roedd ei wraig wedi cael ei thalu tua £717,000 dros y 15 mlynedd ddiwethaf.