Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Mae pobl a gafodd eu heffeithio gan waharddiad teithio Donald Trump wedi dechrau cyrraedd yr Unol Daleithiau ar ôl i farnwr atal y gwaharddiad.

Mae’r Arlywydd bellach yn apelio er mwyn adfer y gwaharddiad yn erbyn teithwyr o wledydd Mwslemaidd yn bennaf a ddaeth i rym ar 27 Ionawr.

Roedd barnwr yn San Ffransisco ddoe wedi gwrthod cais gan y llywodraeth i adfer y gwaharddiad ar unwaith. Dywedodd y Dirprwy Arlywydd Mike Pence bod y gorchymyn llys yn “rhwystredig” ac mai’r Arlywydd sydd “a’r gallu i benderfynu pwy sydd â mynediad i’r wlad hon.”