Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae Donald Trump wedi apelio yn erbyn dyfarniad llys oedd wedi atal ei waharddiad ar dramorwyr – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Fwslimiaid – rhag teithio i’r wlad.

Yn ôl Arlywydd yr Unol Daleithiau, does gan estroniaid “ddim hawliau cyfansoddiadol” i fynd i mewn i’r wlad.

Mae e wedi cymryd camau ar ôl i farnwr yn Washington atal ei waharddiad ar ffoaduriaid a mewnfudwyr, sy’n effeithio ar saith gwlad.

Cafodd y gwaharddiad ei atal dros dro cyn i Donald Trump ladd ar y barnwr James Robart.

Apêl

Wrth drafod ei apêl, dywedodd Donald Trump wrth y wasg: “Fe wnawn ni ennill. Er diogelwch y wlad, fe wnawn ni ennill.”

Mae Adran Gyfiawnder y llywodraeth wedi apelio’n ffurfiol yn San Francisco, gan honni mai’r Arlywydd ddylai gwneud penderfyniadau ynghylch mewnfudwyr.

Yn ôl yr apêl, “mae estron sy’n ceisio mynediad i’r Unol Daleithiau’n gofyn am fraint ac nid oes ganddo unrhyw hawliau cyfansoddiadol o ran ei gais”.

Mae’n gofyn bod yr ataliad ar y gwaharddiad yn cael ei roi o’r neilltu yn ystod yr apêl.

‘Barnwr bondigrybwyll’

Cafodd James Robart ei alw’n “farnwr bondigrybwyll” gan Donald Trump, gan ychwanegu y bydd ei ddyfarniad yn “cael ei wyrdroi”.

Mewn neges arall ar Twitter, ychwanegodd Donald Trump: “Oherwydd bod y gwaharddiad wedi’i atal gan farnwr, gallai nifer o bobol ddrwg a pheryglus fod yn llifo i mewn i’n gwlad. Penderfyniad ofnadwy.”

Mae’n bosib y bydd rhaid i’r Adran Gyfiawnder egluro’i sylwadau yn ystod yr apêl.

Eisoes, mae protestiadau wedi cael eu cynnal yn erbyn y gwaharddiad yn Efrog Newydd a Fflorida.

Ddoe, cafodd y penderfyniad i atal pobol o Irac, Syria, Iran, Sudan, Libya, Somalia a’r Yemen rhag cael fisa i fynd i’r Unol Daleithiau ei wyrdroi.