Donald Trump - wedi tynnu Awstralia yn ei ben (Llun: Wikipedia)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi beirniadu cynllun a allai ganiatau i ffoaduriaid Mwslimaidd sy’n cael eu gwrthod gan Awstralia, i symud i America.
Mae Donald Trump wedi galw’r cytundeb yn un “dwl”, ac wedi addo edrych eto arno… tra bod prif weinidog Awstralia yn mynnu bod y cytundeb yn un dilys.
Roedd Barack Obama wedi cytuno i roi cartre’ i ffoaduriaid o blith rhyw 1,600 o geiswyr lloches sydd ar hyn o bryd mewn gwersylloedd yn Nauru a Phapua Gini Newydd.
“Ydach chi’n credu hyn?” meddai Donald Trump ar ei gyfri Twitter. “Mae Obama wedi cytuno i dderbyn miloedd o ffoaduriaid anghyfreithlon o Awstralia. Fe fydda’ i’n edrych eto ar y cytundeb dwl yma!”
Fe ddaeth y sylw wedi i bapur newydd The Washington Post gyhoeddi stori am y sgwrs lawn tensiwn fuoedd dros y ffôn rhwng Donald Trump a Malcolm Turnbull, prif weinidog Awstralia.
Yn ôl yr adroddiad, roedd Donald Trump, yn ei wylltineb, wedi galw’r cytundeb “y ddêl waethaf erioed”.