Mohamed Abrini wedi'i ffilmio ar gamerau ym maes awyr Brwsel Llun: PA
Mae Mohamed Abrini, sy’n cael ei adnabod fel “y dyn yn yr het” a oedd wedi ffoi o faes awyr Brwsel ychydig cyn ymosodiad gan hunan-fomwyr, wedi cael ei gyhuddo yn Ffrainc mewn cysylltiad a’r ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd.

Mae swyddfa’r erlynydd ym Mharis wedi cadarnhau bod Mohamed Abrini wedi’i gyhuddo ddydd Llun o fod yn aelod o sefydliad brawychol, o fod yn gysylltiedig â chynhyrchu a chludo ffrwydron, ynghyd a honiadau eraill yn ymwneud a’r ymosodiadau yn 2015 pan gafodd 130 o bobl eu lladd.

Mae Mohamed Abrini, sy’n dod o Wlad Belg, hefyd wedi’i gyhuddo o fod a rôl o fewn grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a oedd wedi ymosod ar Frwsel ar 22 Mawrth.

Roedd camerâu diogelwch wedi ei ffilmio yn cerdded ochr yn ochr â dau hunan-fomiwr a oedd wedi ffrwydro bomiau yn ddiweddarach ym maes awyr Brwsel.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng Ngwlad Belg ond cafodd ei drosglwyddo i Ffrainc am y diwrnod ddydd Llun.