Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cythruddo Mecsico trwy awgrymu y byddai’n codi treth o 20% ar nwyddau yn dod o Fecsico i America, a hynny er mwyn talu am fur ar ei ffin.

Trwy gydol ei ymgyrch arlywyddol mi wnaeth Donald Trump addo y byddai yn adeiladu wal ar hyd ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau, gan fynnu mai Mecsico fyddai’n talu.

Roedd Arlywydd Mecsico Enrique Pena Nieto i fod i gwrdd ag Arlywydd America i drafod y mater ond trydarodd ddoe na fyddai yn mynychu’r cyfarfod.

Mewn araith dywedodd Arlywydd newydd America fod y ddau arweinydd wedi penderfynu peidio cyfarfod gan ddweud “os dydy Mecsico ddim yn mynd i drin yr Unol Daleithiau yn deg a gyda pharch bydd cyfarfod yn ofer”.

Treth 20%

Dywedodd llefarydd ar ran Donald Trump eu bod yn ystyried treth o 20% ar nwyddau o Fecsico er mwyn talu am y wal fyddai mwy na thebyg yn costio rhwng 12 a 15 biliwn o ddoleri.

Mae 80% o’r nwyddau mae Mecsico yn allforio yn mynd i’r Unol Daleithiau, ac o ystyried bod gwerth £1.3 biliwn o fasnach yn digwydd rhwng y ddwy wlad pob dydd mae’n debygol y gallai rheolau masnach llymach fod yn niweidiol i’r ddwy ochr.