Mae o leiaf 16 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fws fynd ar dân yn dilyn gwrthdrawiad yng ngogledd yr Eidal.

Roedd y bws yn cludo plant ysgol adref i Hwngari o Ffrainc pan darodd i mewn i fariau yng nghanol y ffordd.

Mae 39 o bobol wedi goroesi, ond mae rhai wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl cael eu taflu o’r bws.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth achosodd y gwrthdrawiad yn Verona toc cyn canol nos neithiwr, meddai’r heddlu.

Cafodd 16 o gyrff oedd wedi’u llosgi eu tynnu o weddillion y bws.

Roedd lle i 54 o deithwyr ar y bws, ond mae lle i gredu bod nifer y teithwyr yn uwch na hynny ac mae ymchwiliad i hynny ar y gweill.