Bahrain (Llun: Jayson de Leon CCA 2.0)
Mae tri dyn wedi cael eu dienyddio yn Bahrain yn dilyn ffrwydrad a laddod dri phlismon.
Dyma’r dienyddiadau cyntaf yn y wlad ers 2010.
Cafwyd Abbas al-Samea, Sami Mushaima ac Ali al-Signace yn euog yn 2015 o lofruddio plismyn mewn ymosodiad yn 2014.
Cafodd y ddedfryd ei chefnogi gan lys yr wythnos diwethaf.