Ardal dinas Sadr yn Baghdad, lle'r oedd yr ymosodiad (Llun Parth Cyoeddus)
Mae mudiad milwrol IS wedi hawlio’r cyfrifoldeb am ymosodiad mawr arall yn y Dwyrain Canol gyda bom yn lladd o leia’ 36 o bobol.
Fe ddaeth yr ymosodiad yn Baghdad, prifddinas Irac, wrth i Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, gyrraedd yno am drafodaethau.
Fe gafodd y bom ei ffrwydro ynghanol marchnad lysiau a ffrwythau wrth i’r bomiwr esgus ei fod eisiau cyflogi gweithwyr a thanio’r ffrwydryn fel yr oedd criw yn casglu o’i gwmpas.
Targed cyson
Roedd y digwyddiad yn ardal Sadr o’r ddinas, ble mae llawer o Foslemiaid Shiaidd yn byw, ac ardal sy’n darged cyson i ymosodwyr o’r garfan Sunni.
Roedd pobol leol wedi disgrifio sut yr oedd gweithwyr wedi tyrru o amgylch y bomiwr yn y gobaith o gael gwaith ac yna wedi eu taflu i’r awyr gan y ffrwydrad.
Roedd Arlywydd Ffrainc yn y wlad i drafod cefnogaeth bellach i’r Llywodraeth ac i glywed sut y mae’r ymgyrchu yn erbyn IS yn mynd.