Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan Llun: PA
Mae Heddlu Gwrthfrawychiaeth Twrci yn cadw dwsinau o unigolion yn y ddalfa y maen nhw’n credu sydd â chysylltiad â’r wrthblaid Cwrdaidd wrth iddynt gynnal cyrchoedd ar draws y wlad, yn ôl cyfryngau Twrci.

Nid yw’r cyfryngau’n nodi, serch hynny, a yw’r unigolion hyn yn cael eu hamau o fod â chysylltiad â’r ffrwydron ddydd Sadwrn ger stadiwm bêl-droed Besiktas yn Istanbwl lle cafodd 28 o bobol eu lladd a 155 eu hanafu.

Yn ôl yr asiantaeth newyddion, mae o leiaf 37 o aelodau Plaid Ddemocrataidd y Bobol (HDP) wedi’u cadw yn y ddalfa yn Istanbwl ac yn Ankara ddydd Llun.

Ac mae sianel deledu TRT wedi adrodd am gyrchoedd tebyg gan ddweud bod 68 wedi’u harestio yn ninas Mersin a 51 yn ninas Sanliurfa yn ne-ddwyrain Twrci.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, ac awdurdodau Twrcaidd eraill yn cyhuddo’r HDP o fod â chysylltiadau â’r PKK, Plaid Gweithwyr Cwrdistan sydd wedi’i gwahardd.