Mae 14 o bobol wedi eu hanafu wedi i ddaeargryn yn mesur 7.4 daro arfordir dwyreiniol Japan y bore ‘ma.

Dywedodd Asiantaeth Rheoli Argyfyngau’r wlad bod o leiaf tri o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol wedi’r daeargryn ger ardal Fukushima, uwchben Tokyo.

Roedd rhybuddion am swnami ond maen nhw wedi gostegu erbyn hyn.

Dyma’r daeargryn mwyaf grymus yn yr ardal ers 2011, pan gafodd bron i 18,000 o bobol eu lladd.

Ond mae Asiantaeth Rheoli Argyfyngau’r wlad wedi rhybuddio y gall daeargryn mawr arall daro o fewn y dyddiau nesaf ac maen nhw’n annog trigolion i fod yn wyliadwrus am tuag wythnos.